Hempcrete
Wrth adeiladu o’r newydd rydym yn gosod hempcrete ar y cyd â ffrâm bren strwythurol i ffurfio waliau insiwleiddio uchel iawn sydd hefyd yn darparu màs thermol mawr. Mae agwedd monolithig y wal yn golygu nad oes pontio thermal mewn bylchau mortar a bod inswleiddio cyson o’r llawr i’r nenfwd. Gellid ffurfio hempcrete i unrhyw siâp a’i osod ar unrhyw wal anwedd athraidd mewn gwaith ôl-osod. Wedyn gall plastar calch neu glai gael ei osod yn uniongyrchol i’r hempcrete yn fewnol ac i render calch neu cladio carreg /coed yn allanol.
Blociau cywarch
Mae blociau cywarch yn cael eu creu oddi ar y safle, fel arfer wedi'u gwneud o gyfuniad o gywarch, calch, clai, gwellt neu probiotegau. Rydym yn defnyddio blociau cywarch mewn prosiectau adeiladu newydd ac ôl-osod, ac yn aml rydym yn adeiladu waliau o gyfuniad o hempcrete a blociau. Mae’r blociau yn ddeunyddiau sych, sy'n golygu y gall gwaith mewnol fel plastro barhau yn syth. Mae blociau cywarch yn rhannu holl nodweddion da hempcrete fel inswleiddio, anadlu, gwrthsefyll tân a phlâu - yn ogystal â bod yn ysgafn ac yn gynaliadwy.
Lloriau sy’n anadlu
Rydym yn gosod systemau llawr yn defnyddio inswleiddio calchcrete mewn prosiectau adeiladu o’r newydd ac ôl-osod. Maent yn cynnwys dwy haen - slab calchcrete uwchben inswleiddio gwydr ewyn wedi ei ailgylchu a’i gywasgu sydd yn darparu is-lawr sydd yn ynysig iawn, yn draenio’n rhydd ac yn dwyn llwyth. Mae gan y slab calchcrete gostau carbon gostyngedig o‘i gymharu â deunyddiau eraill yn ogystal â bod yn anwedd athraidd ac ysgafn. Mae gan y deunydd is-lawr nodweddion rheoli gwlybaniaeth a dwyn llwyth eithriadol. Rydym yn aml yn gosod gwresogi dan y llawr o fewn y slabiau calchcrete.
Toeau cynnes
Gellid defnyddio hempcrete ynghyd â deunyddiau naturiol eraill i ffurfio inswleiddio tô hynod effeithlon. Fel arfer gosodir yr hempcrete rhwng y trawstiau, wedi ei gefnogi gan fwrdd cludo gwlân pren sy’n anadlu o fyrddau cyrs. Gellid defnyddio bwrdd ffibr pren sy’n anadlu fel haen aerglos uwchben yr hempcrete. Mae hyn o fudd ar gyfer aerglosrwydd, inswleiddio ychwanegol ac amddiffyniad rhag y tywydd. Mae’r astell teilsio wedyn yn cael ei osod uwchben estyll croes gan greu bwlch anadlu dros y tô i wasgaru unrhyw wlybaniaeth.
Ffrâmio gyda phren
Rydym yn cynnig fframiau pren adeileddol ac addurniadol, gan ddefnyddio dulliau saer traddodiadol fel gwaith peg a chymalau. Rydym bob amser yn ymdrechu i ddefnyddio pren lleol o felinau ar raddfa fach.
Gorffeniadau
Cynigiwn nifer o orffeniadau sy’n anadlu fel plasteri calch, chlai a chywarch. Mae’r gorffeniadau anwedd athraidd hyn yn cynorthwyo’r hempcrete i byffro lefelau lleithder mewnol ac yn cynnig màs thermol ychwanegol heb gyfaddawdu ar y gallu i’r deunyddiau anadlu.