Adeiladu gyda Hempcrete

Dysgwch sut i adeiladu gyda hempcrete yn y cwrs ymarferol hwn! Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer perchnogion tai, adeiladwyr, penseiri neu'r rhai sydd â diddordeb mewn adeiladu naturiol.

Cwrs ‘Adeiladu gyda Hempcrete’

Diddordeb mewn dysgu am ryfeddodau hempcrete? Ymunwch â ni ar y gweithdy ymarferol hwn lle byddwch chi'n ennill y sgiliau a'r wybodaeth o sut i adeiladu wal newydd yn defnyddio hempcrete.

Bydd y cwrs yn cael ei rannu'n ddwy sesiwn; yn y bore bydd cyflwyniad lle byddech yn dysgu holl ffeithiau a ffigurau hempcrete a beth sy'n ei wneud yn ddeunydd adeiladu gynaliadwy, gwych. Yna bydd Jasper a Ronan, arweinwyr y cwrs, yn treulio'r prynhawn yn eich tywys trwy adeilad byw.



Mae'r gweithdy hwn yn gwbl ryngweithiol a bydd cyfranogwyr y cwrs yn cael y cyfle i gymryd rhan ym mhob cam o'r adeiladu, gan gynnwys mesur a thorri pren, defnyddio offer pwer, cymysgu a gosod hempcrete a mwy. Ar y cyd â thrafodaethau dan arweiniad arbenigwyr, mae'r cwrs hwn yn darparu'r offer sydd eu hangen i adeiladu hempcrete yn hyderus.

Byddwch yn dysgu:
- Gwybodaeth dechnegol am adeiladu gyda hempcrete
- Hempcrete mewn senario adeilad-newydd: manylion allweddol
- Sut i adeiladu a gosod ffurfwaith dros dro
- Dulliau o ddefnyddio hempcrete mewn mannau eraill ac ar y cyd â deunyddiau adeiladu naturiol eraill
- Profiad ymarferol o gymysgu a gosod hempcrete i greu rhan o wal newydd

Dyddiadau 2025

Mehefin 14eg

Dydd Sadwrn
9-5yp
Nantmor, Eryri

Medi 13eg

Dydd Sadwrn
9-5yp
Nantmor, Eryri

Tocyn Safonol
£192 yr un

£160 heb gynnwys TAW
18 lleoedd ar gael ar bob cwrs

Graddfa Gostyngol
£120 yr un

£100 heb gynnwys TAW
2 lleoedd ar gael ar bob cwrs
Mae'r rhain wedi'u cadw ar gyfer y rhai sydd ar incwm isel (incwm cartref o dan 12k), di-waith, rhieni/gofalwyr unigol, neu'n derbyn budd-daliadau.

Cwestiynau Cyffredin

Oes angen i mi gael profiad adeiladu?

  • Nid oes angen sgil neu brofiad perthnasol. Bydd harweinwyr y cwrs yn eich arwain trwy'r adeiladu a byddant ar gael i gefnogi ac arddangos drwy gydol y broses.

Oes parcio?

  • Oes, mae digon o lefydd parcio ar y safle, ond ystyriwch rannu lifft os ydych chi'n mynychu'r cwrs gyda ffrindiau neu gydweithwyr.

A allaf gyrraedd y cwrs ar drafnidiaeth gyhoeddus?

  • Nid oes safle trên neu fws dynodedig ger y safle, ond mae llwybr bws S4 yn mynd heibio ar y brif ffordd lle mae'r troad. Porthmadog yw'r dref agosaf (6.8m) a Beddgelert yw un o'r pentrefi agosaf (2.2m) - y ddau yn hawdd eu cyrraedd ar fws a Phorthmadog ar y trên.

Pa gyfleusterau sydd ar y safle?

  • Mae toiledau compostio ar y safle a thapiau ar gyfer dŵr yfed. Gofynnwch i chi ddod â photel ddŵr i'w hail-lenwi trwy gydol y dydd.

Beth ddylwn i wisgo?

  • Mae gweithio gyda Hempcrete yn waith blêr! Er y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal dan do, rydym yn awgrymu gwisgo dillad gwrth-ddŵr i amddiffyn eich croen rhag llosgiadau posibl (mae calch yn sylwedd cyrydol). Byddwn yn darparu'r PPE perthnasol i bawb fel menig, masgiau a gogls.

Yw cinio wedi'i gynnwys?

  • Oes! Bydd ein cyfeillion yn Enaid Kitchen, sy'n ymfalchïo mewn defnyddio cynnyrch lleol ac organig, yn gosod gwledd i ni ei mwynhau. Bydd opsiynau llysieuol ar gael, ond cysylltwch â ni os oes gennych ofynion dietegol pellach y dylem eu hystyried. Dewch â'ch byrbrydau eich hun.

A yw'r cwrs yn hygyrch i gadeiriau olwyn?

  • Yn anffodus, na. Er y gallai defnyddwyr cadeiriau olwyn gymryd rhan mewn agweddau o’r adeilad ei hun, mae lleoliad y safle ar fferm lle mae tir anwastad drwyddi draw.

Oes opsiynau llety ar gael?

  • Oes! Cynhelir y cwrs o fewn fferm fioamrywiaeth yng nghefn gwlad Eryri, lle mae lle i wersylla am £15 y noson (y pen) neu yn y Cwt Bugail hyfryd ar y safle (cysgu 2) am £110 y noson, arhosiad o 2 noson o leiaf. Am fwy o opsiynau llety, chwiliwch am argaeledd mewn pentrefi cyfagos fel Nantmor, Beddgelert, Llanfrothen, Prenteg a Phenrhyndeudraeth.

Oes unryw costau ymlaen llaw?

  • Gofynnwn i flaendal o 20% gael ei dalu wrth archebu i sicrhau eich lle ar y cwrs, ac bydd rhaid talu gweddill y ffi o leiaf 3 wythnos cyn dyddiad y cwrs.