Helo! Jasper a Ronan ydym ni, a gyda’n gilydd ‘rydym yn cyd-redeg Hempcrete Cymru Cyf, cwmni adeiladu naturiol sy’n arbenigo mewn adeiladu gyda hempcrete. Rydym yn cynnig nifer o wasanaethau ar gyfer prosiectau adeiladu newydd ac adnewyddu neu ôl-osod adeiladau sydd yn bodoli’n barod. Rydym yn cynnig gwasanaeth inswleiddio waliau solet gyda hempcrete ac insiwleiddio bloc ‘pre-cast’ hempcrete, lloriau ‘calchcrete’, gwaith maen, adeiladu toeau sy’n anadlu a mwy. Ein nod fel Hempcrete Cymru yw gallu cynnig datrysiadau tai fforddiadwy tra hefyd yn diwallu’r angen am ddulliau adeiladu cynaliadwy, eco-gyfeillgar yn y diwydiant adeiladu. Mae’n bwysig i ni fel cwmni gynrychioli ffordd ymlaen sy’n gynaliadwy ar gyfer tai yng Nghymru.

Jasper%2Band%2BRonan

Mae Ronan (ar y dde) yn saer maen medrus, waliwr cerrig sych ac adeiladwr sy’n arbenigo mewn dulliau adeiladu traddodiadol. Mae ganddo brofiad helaeth o waith adfer ac adnewyddu, yn cyfuno gwaith hempcrete a gwaith maen. Mae ganddo lygad da ar gyfer tirlunio a dylunio. Arweiniodd ei ddiddordeb mewn deunyddiau adeiladu cynaliadwy at gyfarfod â hanner arall Hempcrete Cymru, Jasper.


Mae Jasper (ar y chwith) yn arbenigwr mewn dulliau adeiladu naturiol, gydag arbenigedd mewn hempcrete, adeiladu o’r newydd ac ôl-osod anadol a thrwsio adeiladau treftadaeth. Gyda sawl blwyddyn o brofiad o weithio i UK Hempcrete, mae ganddo gysylltiadau cadarn gyda’r diwydiant hempcrete. Mae e’n angerddrol am gynaliadwyaeth gyda golwg ar ddyfodol gwyrdd mewn adeiladu yn defnyddio deunyddiau ardrawiad isel.

Wedi’i sefydlu yn 2020, mae eu busnes wedi tyfu i fod yn un adnabyddus, ddibynadwy a llwyddiannus. Maen nhw’n gontractwyr ar Stad Brondanw yng Ngwynedd ac wedi teithio ar hyd a lled y DU yn cwblhau adeiladau ar Ynys Skye, Suffolk, Sir Benfro, Caeredin a mwy.