Beth yw Hempcrete?
Mae hempcrete yn ddeunydd a wneir drwy gymysgu ‘hemp shiv’ gyda rhwymwr calch. Mae’n darparu haen insiwleiddio sydd yn anwedd athraidd ac yn aerglos sydd hefyd â màs thermol arbennig, Canlyniad hwn yw amgylchedd fewnol naturiol sydd yn iach ac yn rhydd o ddamp.
Mae’r CO2 a amsugnir wrth dyfu’r planhigyn hemp ar y cyd â charboniad parhaus y rhwymwr calch, yn gwneud hempcrete yn ddeunydd carbon negyddol. Golyga hyn fod mwy o garbon atmosfferig wedi ei atafaelu dros oes yr adeilad na’r hyn a gynhyrchir yn ystod yr holl broses adeiladu.
Mae hempcrete hefyd yn ddeunydd perffaith ar gyfer insiwleiddio a thrwsio adeiladau traddodiadol. Mae ei athreiddedd anwedd yn caniatau i’r adeiladau hyn i anadlu ac yn rhwystro eu dirywiad yn sgil cronni lleithder. Gellir castio hempcrete i ddilyn siâp a chymeriad unrhyw waliau neu fframiau a phaneli coed blaenorol. Mae natur rhydd hempcrete yn caniatau iddo lenwi a chaledu ym mhob gwacter mewn waliau anwastad ac anarferol, gan sicrhau haen insiwleiddio aerglos ac effeithlon.
Mae hempcrete yn darparu amgylchedd mewnol sydd yn gynnes, sych ac yn rhydd o gemegau..
Diwedd ar oerfel..
Mae’r cyfuniad o màs thermol ac insiwleiddio mewn deunydd unigol yn galluogi hempcrete i wireddu perfformiad thermal hynod. Mae tymhereddau mewnol yr adeilad yn parhau bron yn gyson gyda phrin angen am wresogi. Mae yn aros yn gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr hâf.
Diwedd ar damprwydd..
Bydd hempcrete yn clustogi lefelau lleithder o fewn y cartref, gan amsugno a rhyddhau gwlybaniaeth pan fydd lleithder yn cynyddu neu’n gostwng. Mae hyn yn gwneud i ffwrdd â cyddwysedd ar wyneb waliau ac yn cadw’r lleithder mewnol yn 40-60% sydd yn cyfyngu twf llwydni, bacteria a feirws.
Diwedd ar gemegau..
Mae hempcrete yn gwireddu graddfeydd arbennig ar gyfer rhwystro tân, pydredd a phla heb fod angen unrhyw driniaethau. Mae nodweddion cadwolyn y calch yn golygu y gellid defnyddio pren meddal heb ei drin gan arwain at ffrâm rhatach ac iachach.